Croeso i ddatganiad preifatrwydd bendigedig
Mae bendigedig yn parchu’ch preifatrwydd ac wedi ymrwymo i ddiogelu eich data personol. Bydd y datganiad preifatrwydd hwn yn rhoi gwybod i chi sut rydym yn gofalu am eich data personol pan fyddwch chi’n ymweld â’n gwefan (o ba le bynnag y byddwch yn gwneud hynny), ac yn dweud wrthych am eich hawliau preifatrwydd a sut mae’r gyfraith yn eich diogelu.
Pwrpas y Datganiad Preifatrwydd Hwn
Nod y datganiad preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am sut mae bendigedig yn casglu a phrosesu’ch data personol trwy’ch defnydd o’r wefan hon, gan gynnwys unrhyw ddata y gallech fod wedi ei ddarparu drwy’r wefan hon, er enghraifft wrth i chi gofrestru i dderbyn cylchlythyr neu wybodaeth am ddigwyddiadau.
Nid yw’r wefan hon wedi’i bwriadu ar gyfer plant, ac nid ydym yn fwriadol yn casglu data yn ymwneud â phlant trwy’r wefan.
Mae’n bwysig eich bod chi’n darllen y datganiad preifatrwydd hwn ynghyd ag unrhyw ddatganiad preifatrwydd arall neu ddatganiad prosesu teg y gallem ei ddarparu ar adegau penodol pan fyddwn yn casglu neu’n prosesu data personol amdanoch chi, fel eich bod yn gwbl ymwybodol o sut a pham rydym yn defnyddio’ch data. Mae’r datganiad preifatrwydd hwn yn atodol i’r datganiadau eraill, ac ni fwriedir iddo gael blaenoriaeth drostynt.
Rheolwr
Label bendigedig yw’r rheolwr sy’n gyfrifol am eich data personol (y cyfeirir ato fel “bendigedig”, “ni” neu “ein” yn y datganiad preifatrwydd hwn). Mae bendigedig yn label wedi ei berchen a’i reoli mewn partneriaeth gyffredin gan Theatr Mwldan ac ARC Music Productions International Ltd.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y datganiad preifatrwydd hwn, gan gynnwys unrhyw geisiadau i arfer eich hawliau cyfreithiol, mae croeso i chi gysylltu â ni gan ddefnyddio’r manylion a nodir isod.
bendigedig
c/o Theatr Mwldan
Aberteifi
Ceredigion
Cymru
01239 623925
Mae gennych hawl ar unrhyw adeg i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef awdurdod goruchwyliol y Deyrnas Gyfunol ar gyfer materion diogelu data (www.ico.org.uk). Fodd bynnag, byddem yn gwerthfawrogi’r cyfle i ddelio â’ch pryderon cyn i chi fynd at yr ICO, felly gofynnwn yn garedig i chi gysylltu â ni yn y lle cyntaf.
Dolenni Trydydd-parti
Gall y wefan hon gynnwys dolenni i wefannau, ategion ac apiau trydydd-parti. Gall clicio ar y dolenni hynny, neu alluogi’r cysylltiadau hynny, ganiatáu i drydydd parti gasglu neu rannu data amdanoch chi. Nid ydym yn rheoli’r gwefannau trydydd-parti hyn, ac nid ydym yn gyfrifol am eu datganiadau preifatrwydd. Pan fyddwch yn gadael ein gwefan ni, rydym yn eich annog i ddarllen datganiad preifatrwydd pob gwefan rydych yn ymweld â hi.
Y data rydym yn ei gasglu amdanoch chi
Mae data personol, neu wybodaeth bersonol, yn cyfeirio at unrhyw wybodaeth am unigolyn y gellir ei defnyddio i adnabod y person hwnnw. Nid yw’n cynnwys data lle mae’r hunaniaeth wedi’i dynnu allan (data anhysbys).
Mae’n bosib y byddwn yn casglu, defnyddio, storio a throsglwyddo gwahanol fathau o ddata personol amdanoch, ac rydym wedi eu grwpio i’r categorïau canlynol:
-
Data Hunaniaeth yn cynnwys enw cyntaf, enw cyn priodi, enw olaf, enw defnyddiwr neu ddynodwr tebyg, statws priodasol, teitl, dyddiad geni a rhyw.
-
Data Cyswllt yn cynnwys cyfeiriad, cyfeiriad e-bost a rhifau ffôn.
-
Data Technegol yn cynnwys cyfeiriad protocol rhyngrwyd (IP), eich data mewngofnodi, math o borwr a fersiwn, lleoliad a lleoliad parth amser, mathau o ategion porwr a fersiynau, system weithredu a phlatfform, a mathau eraill o dechnoleg sydd ar y dyfeisiau a ddefnyddiwch i gael mynediad i’r wefan hon.
-
Data Defnydd yn cynnwys gwybodaeth am sut rydych yn defnyddio ein gwefan a’n gwasanaethau.
-
Data Proffil yn cynnwys eich enw defnyddiwr a chyfrinair, eitemau a brynwyd neu a archebwyd gennych, eich diddordebau, dewisiadau, adborth ac ymatebion i arolygon.
-
Data Marchnata a Chyfathrebu yn cynnwys eich dewisiadau wrth dderbyn gohebiaeth marchnata gennym, a’ch dewisiadau cyfathrebu.
Rydym hefyd yn casglu, defnyddio a rhannu Data Cyfunol, e.e. data ystadegol neu ddata demograffig, at unrhyw ddiben. Efallai y bydd Data Cyfunol yn deillio o’ch data personol, ond ni chaiff ei ystyried yn ddata personol yn ôl y gyfraith gan nad yw’r data hwn yn datgelu eich hunaniaeth yn uniongyrchol nac yn anuniongyrchol. Er enghraifft, efallai y byddwn yn cyfuno’ch Data Defnydd i gyfrifo canran y defnyddwyr sy’n defnyddio nodwedd benodol o’n gwefan. Fodd bynnag, os byddwn yn cyfuno neu’n cysylltu Data Cyfunol â’ch data personol fel y gellir eich adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, rydym yn trin y data cyfunol fel data personol a gaiff ei ddefnyddio’n unol â’r datganiad preifatrwydd hwn.
Nid ydym yn casglu unrhyw Gategorïau Arbennig o Ddata Personol amdanoch drwy’r wefan hon (gan gynnwys manylion am eich hil neu’ch ethnigrwydd, credoau crefyddol neu athronyddol, bywyd rhywiol, tueddfryd rhywiol, barn wleidyddol, aelodaeth undeb llafur, gwybodaeth am eich iechyd, a’ch data geneteg a biometrig).
Sut rydym ni’n casglu data personol?
Rydym yn defnyddio gwahanol ddulliau i gasglu data oddi wrthych ac amdanoch, gan gynnwys y canlynol:
-
Rhyngweithiadau uniongyrchol. Efallai y byddwch yn rhoi eich Data Hunaniaeth a’ch Data Cyswllt i ni trwy lenwi ffurflenni neu gyfathrebu â ni trwy’r post, ffôn, e-bost neu fel arall. Mae hyn yn cynnwys data personol rydych yn ei ddarparu pan fyddwch chi’n:
-
tanysgrifio i’n gwasanaeth, cylchlythyrau, manylion digwyddiadau neu gyhoeddiadau;
-
gofyn i ni anfon gohebiaeth marchnata atoch; neu
-
yn rhoi adborth i ni.
-
-
Technolegau neu ryngweithiadau awtomataidd. Wrth i chi ryngweithio â’n gwefan, efallai y byddwn yn casglu Data Technegol yn awtomatig am eich offer, eich gweithredoedd pori a’ch patrymau. Rydym yn casglu’r data personol hwn trwy ddefnyddio cwcis, logiau gweinydd a thechnolegau eraill tebyg.
-
Trydydd partïon neu ffynonellau sydd ar gael i’r cyhoedd. Efallai y byddwn yn derbyn data personol amdanoch gan wahanol drydydd partïon a ffynonellau cyhoeddus, fel y nodir isod:
-
Data Technegol o ddarparwyr dadansoddol megis Google a/neu ddarparwyr gwybodaeth chwilio.
-
Data Hunaniaeth a Chyswllt o ffynonellau sydd ar gael yn gyhoeddus, e.e. Tŷ’r Cwmnïau
-
Sut rydym yn defnyddio eich data personol
Byddwn yn defnyddio’ch data personol yn unig pan fydd y gyfraith yn caniatáu i ni wneud hynny. Yn gyffredinol, byddwn yn defnyddio’ch data personol dan yr amgylchiadau canlynol:
-
Lle mae angen i ni gyflawni’r cytundeb rydym ar fin neu wedi ymrwymo iddo gyda chi.
-
Pan fo’n angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (neu rai rhyw drydydd parti) ac nad yw eich buddiannau a’ch hawliau sylfaenol yn cael blaenoriaeth dros y buddiannau hynny.
Yn gyffredinol, nid ydym yn dibynnu ar ganiatâd fel sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol, heblaw mewn perthynas ag anfon gohebiaeth marchnata uniongyrchol atoch drwy e-bost. Mae gennych hawl i dynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg trwy gysylltu â ni ar y manylion a nodir uchod.
Y dibenion y byddwn yn defnyddio’ch data personol ar eu cyfer
Nodwch y gallwn brosesu eich data personol ar gyfer mwy nag un pwrpas cyfreithlon, yn dibynnu ar y pwrpas penodol rydym yn defnyddio’ch data ar ei gyfer.
Gweithred Grŵp data Sail gyfreithiol i brosesu’r data I reoli ein perthynas â chi, gan gynnwys:
(a) Eich hysbysu chi am newidiadau i’n telerau neu’n polisi preifatrwydd
(a) Hunaniaeth
(b) Cyswllt
(c) Proffil
(ch) Marchnata a Chyfathrebu
(a) Perfformiad o gontract gyda chi
Marchnata
Rydym yn ceisio rhoi dewisiadau i chi mewn perthynas â rhai dulliau o ddefnyddio data personol, yn enwedig yng nghyd-destun marchnata a hysbysebu.
Optio Allan
Gallwch ofyn i ni, neu i drydydd partïon, roi’r gorau i anfon negeseuon marchnata atoch ar unrhyw adeg trwy ddilyn y dolenni eithrio ar unrhyw neges farchnata a anfonir atoch, neu drwy gysylltu â ni.
Pan fyddwch yn optio allan o dderbyn y negeseuon marchnata yma, ni fydd hyn yn berthnasol i ddata personol a ddarperir i ni o ganlyniad i wasanaeth a ddarperir i chi.
Datgelu eich Data Personol
Efallai y bydd yn rhaid i ni rannu eich data personol i’r dibenion a nodir yn y tabl uchod gyda Thrydydd Parti Allanol a/neu drydydd partïon y gallwn ddewis trosglwyddo data iddynt.
Rydym yn ei gwneud yn ofynnol i bob trydydd parti barchu diogelwch eich data personol a’i drin yn unol â’r gyfraith. Nid ydym yn caniatáu i’n darparwyr gwasanaeth trydydd-parti ddefnyddio eich data personol i’w dibenion eu hunain, a byddwn yn caniatáu iddynt brosesu eich data personol dim ond i ddibenion penodol ac yn unol â’n cyfarwyddiadau ni.
Diogelwch Data
Rydym wedi rhoi mesurau diogelwch priodol ar waith i atal eich data personol rhag cael ei golli, ei ddefnyddio mewn ffordd anawdurdodedig, ei newid neu ei ddatgelu’n ddamweiniol. Yn ogystal, rydym yn cyfyngu mynediad i’ch data personol fel mai dim ond gweithwyr, asiantau, contractwyr a thrydydd partïon a chanddynt wir angen busnes sydd â mynediad iddo. Byddant ond yn prosesu eich data personol yn unol â’n cyfarwyddiadau ni, ac maent yn atebol i ddyletswydd o gyfrinachedd.
Os byddwn yn amau unrhyw fynediad anawdurdodedig at eich data personol, mae gennym weithdrefnau pwrpasol ar waith i ddelio â’r sefyllfa, a byddwn yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol lle mae’n ofynnol i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith.
Cadw Data
Am ba hyd y byddwch chi’n defnyddio fy ngwybodaeth personol?
Byddwn ond yn cadw eich data personol cyhyd ag y bo’n angenrheidiol ar gyfer y dibenion y casglwyd y data’n wreiddiol ar eu cyfer, gan gynnwys at ddibenion bodloni unrhyw ofynion cyfreithiol, cyfrifyddu neu adrodd yn ôl.
Er mwyn pennu’r cyfnod cadw priodol ar gyfer data personol, rydym yn ystyried swm, natur a sensitifrwydd y data personol, y perygl posibl o niwed a ddeuai o ddefnyddio neu ddatgelu’ch data personol heb awdurdod, y dibenion rydym yn prosesu eich data personol ar eu cyfer, a oes modd i ni gyflawni’r dibenion hynny trwy ddulliau eraill, a’r gofynion cyfreithiol perthnasol.
Mae manylion am gyfnodau cadw ar gyfer gwahanol agweddau o’ch data personol ar gael yn ein polisi cadw, y gallwch ofyn am gopi drwy gysylltu â ni.
Mewn rhai amgylchiadau, gallwch ofyn i ni ddileu eich data: gweler Cais i ddileu isod am ragor o wybodaeth.
Mewn rhai amgylchiadau, efallai y byddwn yn defnyddio eich data personol yn ddienw (fel na ellir bellach ei gysylltu â chi) at ddibenion ymchwil neu ddibenion ystadegol; os felly, efallai y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon am gyfnod amhenodol heb roi rhybudd pellach i chi.
Eich Hawliau Cyfreithiol
O dan rai amgylchiadau, mae gennych hawliau dan gyfreithiau diogelu data mewn perthynas â’ch data personol.
Mae gennych hawl:
-
I ofyn am fynediad i’ch data personol. Mae hyn yn eich galluogi i dderbyn copi o’r data personol sydd gennym amdanoch chi ac i wirio ein bod yn ei brosesu’n gyfreithlon.
-
I ofyn am gywiro’r data personol sydd gennym amdanoch chi. Mae hyn yn eich galluogi i gywiro unrhyw ddata anghyflawn neu anghywir sydd gennym amdanoch chi, er efallai y bydd angen i ni gadarnhau cywirdeb y data newydd a roddwch i ni.
-
I wneud cais i ddileu eich data personol. Mae hyn yn eich galluogi i ofyn i ni ddileu data personol lle nad oes rheswm da dros barhau i’w brosesu. Mae gennych hefyd hawl i ofyn i ni ddileu neu waredu eich data personol lle rydych wedi arfer eich hawl i wrthwynebu ei brosesu, lle gallem fod wedi prosesu’ch gwybodaeth yn anghyfreithlon, neu lle mae gofyn i ni ddileu eich data personol i gydymffurfio â chyfraith leol. Sylwch, fodd bynnag, na fyddwn bob amser yn gallu cydymffurfio â’ch cais i ddileu am resymau cyfreithiol penodol a fydd yn cael eu darparu, os yn berthnasol, ar yr adeg y cyflwynir eich cais.
-
I wrthwynebu prosesu eich data personol lle rydym yn dibynnu ar fudd cyfreithlon (neu rai trydydd parti) a bod rhywbeth am eich sefyllfa arbennig chi sy’n eich gwneud yn awyddus i wrthwynebu prosesu ar y sail hon gan eich bod yn teimlo ei fod yn effeithio ar eich hawliau sylfaenol a’ch rhyddid. Mae gennych hefyd hawl i wrthwynebu lle rydym yn prosesu eich data personol at ddibenion marchnata uniongyrchol. Mewn rhai achosion, efallai y byddwn yn dangos bod gennym sail gyfreithlon i brosesu eich gwybodaeth a bod honno’n cymryd blaenoriaeth dros eich hawliau a’ch rhyddid.
-
I wneud cais am gyfyngu ar brosesu eich data personol. Mae hyn yn eich galluogi i ofyn i ni atal prosesu eich data personol yn y sefyllfaoedd canlynol:
-
os ydych am i ni sefydlu cywirdeb y data;
-
lle mae ein defnydd o’r data yn anghyfreithlon ond nad ydych am i ni ei ddileu;
-
lle mae angen i ni ddal y data hyd yn oed os nad oes arnom bellach ei angen oherwydd bod arnoch chi ei angen i sefydlu, ymarfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol; neu
-
eich bod wedi gwrthwynebu’r defnydd a wnawn ni o’ch data ond bod angen i ni wirio a oes gennym sail gyfreithiol orfodol i’w ddefnyddio.
-
-
I ofyn am drosglwyddo eich data personol i chi neu i drydydd parti. Byddwn yn darparu i chi, neu i drydydd parti o’ch dewis chi, eich data personol mewn fformat strwythuredig, a ddefnyddir yn gyffredin ac sy’n ddarllenadwy gan beiriant. Noder nad yw’r hawl hon ond yn berthnasol i wybodaeth awtomataidd y rhoesoch ganiatâd i ni ei defnyddio yn y lle cyntaf, neu lle’r oeddem yn defnyddio’r wybodaeth i weithredu contract gyda chi.
-
I dynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg lle rydym yn dibynnu ar ganiatâd i brosesu eich data personol. Fodd bynnag, ni fydd hyn yn effeithio ar gyfreithlondeb unrhyw brosesu a gynhelir cyn i chi dynnu eich caniatâd yn ôl. Os byddwch yn tynnu’ch caniatâd yn ôl, efallai na fyddwn yn gallu darparu rhai gwasanaethau i chi. Byddwn yn eich cynghori os yw hyn yn wir ar yr adeg y byddwch yn tynnu’ch caniatâd yn ôl .
Os hoffech ymarfer unrhyw un o’r hawliau a nodir uchod, cysylltwch â ni.
Ffioedd
Ni fydd raid i chi dalu ffi i gael mynediad at eich data personol (neu i arfer unrhyw un o’r hawliau eraill). Fodd bynnag, efallai y byddwn yn codi ffi rhesymol os yw eich cais yn amlwg yn ddi-sail, yn ailadroddus neu’n ormodol. Fel arall, efallai y byddwn yn gwrthod cydymffurfio â’ch cais yn yr amgylchiadau hyn.
Yr hyn y bydd angen i chi ei ddarparu
Efallai y bydd angen i ni ofyn am wybodaeth benodol gennych er mwyn ein helpu i gadarnhau eich hunaniaeth a sicrhau eich hawl i gael mynediad at eich data personol (neu i arfer unrhyw un o’ch hawliau eraill). Mesur diogelwch yw hwn i sicrhau nad yw data personol yn cael ei ddatgelu i unrhyw berson nad oes ganddo hawl i’w dderbyn. Efallai y byddwn hefyd yn cysylltu â chi i ofyn am ragor o wybodaeth mewn perthynas â’ch cais er mwyn cyflymu ein ymateb.
Amserlen ymateb
Rydym yn ceisio ymateb i bob cais dilys o fewn mis. Weithiau gall gymryd mwy na mis os yw’ch cais yn arbennig o gymhleth, neu os ydych wedi gwneud nifer o geisiadau. Mewn achos o’r fath, byddwn yn eich hysbysu ac yn eich diweddaru.
Geirfa
Sail cyfreithlon
Mae Budd Cyfreithiol yn golygu buddiannau ein busnes wrth gynnal a rheoli ein busnes i’n galluogi i roi’r gwasanaeth gorau i chi, a’r profiad gorau a mwyaf diogel. Rydym yn sicrhau ein bod yn ystyried ac yn cydbwyso unrhyw effaith bosibl (yn gadarnhaol a negyddol) arnoch chi a’ch hawliau cyn i ni brosesu eich data personol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon. Nid ydym yn defnyddio’ch data personol ar gyfer gweithgareddau lle mae’r effaith arnoch chi yn gorbwyso ein buddiannau ni (oni bai eich bod wedi rhoi eich caniatâd neu fel arall ei fod yn ofynnol neu’n cael ei ganiatáu yn ôl y gyfraith). Trwy gysylltu â ni, gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn asesu ein buddiannau cyfreithlon yn erbyn unrhyw effaith bosibl arnoch chi mewn perthynas â gweithgareddau penodol.
Mae Gweithredu Cytundeb yn golygu prosesu’ch data lle bo hynny’n angenrheidiol ar gyfer gweithredu cytundeb rydych ar fin neu wedi ymrwymo iddo.
Mae cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol neu reoleiddiol yn golygu prosesu eich data personol lle bo hynny’n angenrheidiol i gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol neu reoleiddiol rydym yn ddarostyngedig iddi.